Mae arweinydd y gwrthryfelwyr yn ardal Luhansk yn yr Wcrain, wedi cael ei anafu gan fom car.

Fe ffrwydrwyd dyfais ger car Igor Plotnitsky, arweinydd hunan-apwyntiedig gweriniaeth Popol Luhansk, yn gynnar fore Sadwrn. Mae o bellach wedi’i gludo i’r ysbyty, ac mae bellach mewn cyflwr sefydlog.

Mae ymladd rhwng gwrthryfelwyr â chefnogaeth Rwsia, a lluoedd y llywodraeth, ers mis Ebrill 2014, ac mae mwy na 9,500 o bobol wedi’u lladd yn y cyfnod hwnnw. Mae miliwn arall wedi’u gorfodi o’u cartrefi yn yr un cyfnod.

Fe gafodd Luhansk ei bomio’n ddidrugaredd yn ystod haf 2014, ond mae’r gwrthryfelwyr bellach yn rheoli’r ddinas a’r ardal o’i chwmpas.