Leyton Gamlin (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae plismyn yng Nghaerdydd yn chwilio am ddyn 34 oed sydd ar goll o’i gartre’ yn ardal Caerau.

Does neb wedi gweld Leyton Gamlin ers iddo adael ei gartre’ ddoe (dydd Gwener, Awst 5). Bryd hynny, roedd yn gwisgo crys-T tywyll, pâr o jîns denim golau, a threnars Nike am ei draed.

Mae swyddogion Heddlu De Cymru yn gwneud ymholiadau, ac yn gofyn i aelodau’r cyhoedd gysylltu os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth a allai fod o help i ddod o hyd i Leyton Gamlin.