Vladimir Putin (Llun: PA)
Mae un o hofrenyddion Rwsia wedi cael ei saethu i’r llawr yn Syria, gan ladd y pum teithiwr ar ei bwrdd, meddai llefarydd ar ran y Kremlin.

Cafodd yr hofrennydd Mi-8 ei saethu i’r llawr yn nhalaith Idlib wrth ddychwelyd i safle awyr Rwsia ar arfordir Syria. Roedd wedi bod yn dosbarthu nwyddau dyngarol i ddinas Aleppo.

Roedd tri aelod o’r criw a dau swyddog ar fwrdd yr hofrennydd ar y pryd.

Dywedodd Dmitry Peskov, llefarydd ar ran Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin: “O’r wybodaeth rydym wedi ei chael, mae pob un oedd ar fwrdd yr hofrennydd wedi marw.”