Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion ar ôl i ddynes ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad traffig ar yr A5 yn ardal Wrecsam ddoe.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig ar ôl 4pm dydd Sul, Gorffennaf 31 wrth i gar Volvo a beic modur wrthdaro wrth ymyl cylchfan Halton yn Y Waun.

Cafodd y ddynes oedd yn teithio ar y beic modur ei chludo i ysbyty yn Stoke yn dioddef o anafiadau difrifol i’w choesau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod U113298