Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff dyn ger Traphont Pontcysyllte ger Wrecsam neithiwr.

Nid yw manylion y dyn wedi’i ryddhau hyd yn hyn, ond mae lle i gredu ei fod yn ei ugeiniau.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Bontcysyllte ar ôl 6yh nos Sul, 31 Gorffennaf.

Mae ymchwiliadau’r heddlu yn parhau, ond dydyn nhw ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 a dyfynnu’r cyfeirnod U113364.