Lloches cathod Ty-Nant (Llun o'i gwefan Go Fund Me)
Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi’u cyhuddo yn dilyn lladrad mewn lloches i gathod ym Mhort Talbot dros y penwythnos.
Digwyddodd y lladrad yn lloches Tŷ-Nant, Cymer, dydd Sadwrn Gorffennaf 30.
Cafwyd hyd i dri o gathod wedi’u lladd, a thri arall heb anafiadau.
Mae bachgen 18 oed wedi’i gyhuddo o fyrgleriaeth ac achosi difrod troseddol, ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys yr Ynadon Abertawe bore yma.
Mae bachgen 15 oed hefyd wedi’i gyhuddo am yr un troseddau, ac fe fydd yntau’n ymddangos o flaen Llys Ieuenctid Abertawe ar Awst 11.
‘Tu hwnt i bob rheswm’
Dywedodd un o wirfoddolwyr lloches Tŷ-Nant eu bod wedi “torri calon ac yn flin iawn am yr anafiadau. Mae’n mynd y tu hwnt i bob rheswm fod unrhyw fod dynol yn gallu achosi niwed o’r fath yn fwriadol ac achosi dioddefaint o’r fath i anifail diamddiffyn,” meddai.
Ers y digwyddiad, mae’r lloches wedi llwyddo i godi mwy na £9,000 at yr achos ar wefan gofundme.
Bwriad lloches Tŷ-Nant, gafodd ei sefydlu yn 1990, ydy gofalu am gathod strae a chathod heb berchnogion, cyn dod o hyd i gartrefi addas ar eu cyfer.