Mae un ddynes wedi’i lladd, a thri o bobol eraill wedi’u cludo i’r ysbyty wedi i ddyn ddechrau saethu yng nghanol dinas Austin, Tecsas.

Mae’r heddlu’n chwilio am un dyn mewn cysylltiad â’r digwyddiad, wedi iddyn nhw dderbyn galwadau yn ystod oriau mân fore Sul. Pan gyrhaeddodd yr heddlu, roedd pump o bobol wedi’u saethu, ac roedd hi’n anhrefn yn yr ardal.

Roedd un wraig wedi marw, a thair dynes arall wedi’u hanafu’n ddigon drwg i gael eu cludo’n syth i’r ysbyty. Fe wrthododd dioddefwr arall fynd i’r ysbyty.

Mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.