Fe fu’n rhaid i’r gwasanaethau brys gael eu galw neithiwr, wedi i dân bwriadol gael ei gynnau yn Y Fenni, ddim yn bell o faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Fe gafodd bêl o wair ei rhoi ar dân ar Bont Llanfoist yn y dre’, dafliad carreg o Ddolydd y Castell lle mae maes y brifwyl.

Fe gafodd y frigad dân ei galw am 8.48yh, ac fe ddaeth criw o’r Fenni ei hun yn ddidrafferth i ddiffodd a gwneud yn siwr fod y safle’n ddiogel.