Gwfan Melania Trump
Mae gwefan Melania Trump, sef gwraig Donald Trump, wedi cael ei ddileu.

Mae hyn yn dilyn ei haraith yng Nghonfensiwn y Gweriniaethwyr ar ddechrau’r mis, lle gafodd ei chyhuddo o ddwyn rhannau o un o areithiau Michelle Obama.

Mae’r wefan, www.melaniatrump.com, nawr yn ailgyfeirio pobl tuag at wefan Sefydliad Trump. Mae Melania Trump wedi trydaru neges ynglyn â’r mater, ‘Cafodd y wefan sydd mewn sylw ei greu yn 2012 ac mae’r wefan wedi cael ei ddileu oherwydd nid yw’n disgrifio fy musnes a fy niddordebau proffesiynol presennol.’

Roedd defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Thrydar yn gyflym i nodi fod ambell ran o’r araith yn hynod o debyg i rannau o araith Obama. Roedd ysgrifennydd areithiau wedi esbonio bod Mrs Trump wedi darllen rhannau o areithiau Michelle Obama iddi pan oedd hi’n ceisio nodi pwy oedd yn ei hysbrydoli a pha negeseuon yr oedd hi eisiau cyfleu i’r bobl Americanaidd.

Aeth yr ysgrifennydd ymlaen i ddweud ei bod hi wedi ychwanegu ychydig o frawddegau yn nrafft olaf araith Mrs Trump heb edrych ar araith Michelle Obama.