Mae ansicrwydd ynghylch gallu’r Theatr Genedlaethol i wneud ceisiadau am nawdd Ewropeaidd yn dilyn y bleidlais Brexit y mis diwethaf.
Dyna yw rhybudd Cyfarwyddwr Artistig y Theatr sydd wedi cael ei ail-benodi am bum mlynedd arall.
Mae Arwel Gruffydd yn cydnabod yr “her aruthrol” sydd o’i flaen.
Dywedodd wrth golwg360 fod ansicrwydd ynghylch a fydd y cwmni yn cael nawdd i ariannu prosiect ysgrifennu newydd, ar y cyd ag awduron eraill yn yr Almaen, Gwlad Belg, yr Eidal a Gwlad Pwyl, yn dilyn pleidlais Brexit y refferendwm mis diwetha’.
Roedd y prosiect i fod i hybu gwaith newydd mewn ieithoedd lleiafrifol ar draws gwledydd Ewropeaidd ac roedd y Theatr wedi bwriadu gwneud cais am nawdd gan gronfa o Ewrop.
“Ar gyfer cam cyntaf y prosiect, mi fyddwn yn gwneud cais am nawdd o gronfa Ewropeaidd o’r enw Ewrop Greadigol eleni,” meddai Arwel Gruffydd.
“Ond ar gyfer ail gam y prosiect, dydan ni ddim yn gwybod eto os byddan ni’n gymwys i fod yn rhan o’r cais hwnnw nes bydd ‘na eglurder ynglŷn â pherthynas Prydain a chronfa Ewrop Greadigol yn yr hirdymor.
“Aneglur”
“Ar hyn o bryd, rydan ni’n dal i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ac felly rydan ni’n dal yn gymwys i wneud ceisiadau i gronfa Ewrop Greadigol.
“Beth sy’n aneglur ar hyn o bryd yw p’un a fyddwn ni’n gymwys i wneud cais i’r gronfa honno unwaith y byddwn wedi dechrau ar y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Fyddwn ni ddim yn buddsoddi amser ac egni yn ymchwilio ail gam y prosiect hwnnw nes bydd ‘na ychydig bach mwy o sicrwydd ynglŷn â pherthynas gwledydd Prydain â chronfa Ewrop Greadigol.”
Fydd y cwmni yn agor ei gynhyrchiad diweddaraf, Rhith Gân, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf.
Arlwy’r tymor newydd
Dros y tymor nesaf, bydd y Theatr hefyd yn cyflwyno drama newydd, Merch yr Eog, ar y cyd â Teatr Piba o Lydaw, a fydd yn cael ei pherfformio’n Gymraeg, Llydaweg a Ffrangeg ac yn teithio Llydaw yn ogystal â Chymru a de-orllewin Lloegr yn yr hydref.
Bydd y cwmni hefyd yn perfformio cyfieithiad newydd y diwedd Athro Gwyn Thomas o ddrama Shakespeare, Macbeth, a fydd yn cael ei lwyfannu yng Nghastell Caerffili a’i ddarlledu’n fyw i ganolfannau ledled Cymru.
Bydd opera newydd o waith Guto Puw a Gwyneth Glyn yn cael ei pherfformio, sef addasiad o ddrama Gwenlyn Parry, Y Tŵr, mewn cynhyrchiad ar y cyd â Music Theatre Wales.
Yn Merch yr Eog, bydd gofyn i’r gynulleidfa Gymraeg lawrlwytho ap Sibrwd er mwyn dilyn rhannau o’r ddrama a fydd yn cael eu perfformio’n Llydaweg a Ffrangeg.
Bydd y cyfan hefyd ar gael, trwy gyfrwng yr ap, yn Saesneg, Llydaweg a Ffrangeg.