Mae tri o gefnogwyr pêl-droed wedi eu lladd yn Colombia yn dilyn buddugoliaeth y clwb lleol ym mhencampwriaeth clwb De America yr wythnos hon.
Bu dros 600 yn ymladd ar y strydoedd ar ôl i Atletico Nacional o ddinas Medellin guro Independiente del Valle o Ecwador 1-0 yn rownd derfynol y Copa Libertadores.
Dyma ail fuddugoliaeth y clwb yn y gystadleuaeth a’r cyntaf gan dîm o Golombia ers 2004.
Yr oedd un o’r bobl a gafodd eu lladd yn gwisgo crys clwb arall o Medellin pan gafodd ei drywanu yn ei wddw.
Cafwyd adroddiadau gan yr Heddlu fod cefnogwyr Nacional wedi ymosod ar wrthwynebwyr yn y brifddinas Bogota hefyd.
Fe ddywedodd yr Heddlu fod o leiaf 23 o bobl wedi eu hanafu.