Bradley Dredge - un o'r Cymry
Mae dau Gymro’n cystadlu am Bencampwriaeth Golff y PGA yr Unol Daleithiau y penwythnos hwn.
Mae Bradley Dredge, 43, o Tredegar yn chwarae yn ei brif bencampwriaeth ers mwy na chwe mlynedd ar ôl iddo lwyddo i gyrraedd y 100 uchaf yn y byd unwaith yn rhagor.
Y tro diwethaf Jamie Donaldson, 40, o Bontypridd chwarae mewn pencampwriaeth mawr oedd y Bencampwriaeth Agored yn St Andrews yn 2010. Wedi cyfnod o salwch ac anafiadau, mae o wedi llwyddo i frwydro nôl ac mae o ar hyn o bryd yn 99ed yn y byd.
Mae capten tîm Cwpan Ryder Ewrop Darren Clarke wedi dweud ei fod yn credu y bydd Rory McIlroy yn ennill ei drydydd Pencampwriaeth PGA yr Unol Daleithiau dros y penwythnos er nad yw’r Gwyddel wedi ennill un o’r bedair brif bencampwriaethau ers dwy flynedd.
Enillodd Rory McIlroy Bencampwriaeth Agored Iwerddon ym mis Mai ond mae wedi methu ag ychwanegu at ei gyfanswm o bedwar teitl mawr.
Fodd bynnag, mae gan y chwaraewr 28 mlwydd oed record wych yn y PGA ar ôl buddugoliaethau yn 2012 a 2014.