Heddlu'r Almaen (Llun: Wikipedia)
Mae adroddiadau bod meddyg wedi’i saethu mewn ysbyty ym Merlin y bore yma.

Yn ôl heddlu’r Almaen, mae’r meddyg wedi’i anafu’n ddifrifol ac yn cael ei drin mewn uned gofal dwys, ac mae adroddiadau bod y gŵr a’i saethodd wedi lladd ei hun wedi’r digwyddiad.

Mae’r digwyddiad yn dilyn cyfres o ymosodiadau yn yr Almaen mewn ychydig dros wythnos.