Francois Hollande, Arlywydd Ffrainc Llun: PA
Mae’r grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamiadd (IS) bellach wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad yn Normandy heddiw, lle cafodd offeiriad 84 oed ei ladd.
Daeth yr honiad mewn datganiad a gyhoeddwyd gan yr asiantaeth newyddion sy’n gysylltiedig ag IS, sef Aamaq.
Roedd y datganiad yn nodi fod yr ymosodiad wedi’i gynnal gan “ddau filwr o’r Wladwriaeth Islamaidd.”
Ychwanegodd yr asiantaeth newyddion fod yr ymosodiad wedi’i wneud mewn ymateb i alwadau i dargedu gwledydd sy’n rhan o’r glymblaid wedi’i harwain gan yr Unol Daleithiau i frwydro yn erbyn IS.
Digwyddodd yr ymosodiad mewn eglwys yn nhref Saint-Etienne-du-Rouvray ger dinas Rouen heddiw, lle wnaeth dau ymosodwr gymryd gwystlon cyn lladd yr offeiriad gyda chyllell drwy’i wddf. Daeth y digwyddiad i ben wrth i’r heddlu saethu’r ymosodwyr.
Mae enw’r offeiriad a gafodd ei ladd wedi’i gadarnhau – sef y Tad Jacques Hamel ac mae’n debyg ei fod wedi gwasanaethu cymuned Saint-Etienne-du-Rouvray ers degawdau.
Cafodd un o’r gwystlon eraill hefyd eu hanafu’n ddifrifol.
Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, a gweinidog y llywodraeth, Bernard Cazeneuve, wedi cyrraedd y safle wrth i swyddogion fforensig barhau a’u hymchwiliad.
Mae Hollande wedi dweud y bydd yn brwydro yn erbyn IS “gan ddefnyddio pob dull posib”.
Yn y cyfamser dywed erlynwyr yn Ffrainc bod un person wedi cael ei arestio yn yr ymchwiliad i’r ymosodiad.