Plismyn yn cau'r ffordd ger eglwys yn Saint-Etienne-du-Rouvray, Normany, Ffrainc (Llun: BFM via AP)
Mae offeiriad wedi cael ei ladd ar ôl i ddau ddyn gyda chyllyll fynd i’w eglwys wrth iddo gynnal gwasanaeth, yn yr hyn sy’n ymddangos fel y diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau brawychol yn Ffrainc.
Roedd dau ddyn wedi cadw pedwar aelod o’r gynulleidfa yn wystlon am awr cyn cael eu saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl dod allan o’r eglwys yn Normandy, yn ôl adroddiadau lleol.
Roedd y Tad Jacques Hamel yn 84 oed ac wedi gwasanaethu cymuned Saint-Etienne-du-Rouvray, i’r de o Rouen, ers degawdau. Mae adroddiadau’n awgrymu bod y ddau ddyn arfog wedi torri ei wddf gyda chyllell.
Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, a gweinidog y llywodraeth, Bernard Cazeneuve, wedi cyrraedd y safle wrth i swyddogion fforensig barhau a’u hymchwiliad.
Dywedodd llywodraeth Ffrainc bod un o’r gwystlon wedi’u lladd a bod un arall wedi’i anafu’n ddifrifol.
Roedd y ddau ddyn, oedd a chyllyll yn eu meddiant, wedi mynd i’r eglwys toc cyn 10yb amser lleol. Wrth i’r sefyllfa ddatblygu cafodd swyddogion gwrth-frawychiaeth eu hanfon yno i helpu’r heddlu lleol.
Mae’r Arlywydd Hollande wedi awgrymu mai’r grwp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) sydd y tu ol i’r ymosodiad heddiw.
Mae’r awdurdodau gwrth-frawychiaeth ym Mharis wedi dechrau ymchwiliad i’r digwyddiad.