Mae’n ymddangos bod dyn o Japan, a drywanodd 19 o bobol yn farw mewn canolfan ar gyfer pobol ag anableddau, wedi’i gymell gan gasineb.
Fe anafodd Satoshi Uematsu 25 o bobol eraill ddydd Mawrth yn yr ymosodiad gwaethaf yn Japan ers degawdau.
Roedd y dyn 26 oed wedi cael ei ddiswyddo o’r uned i bobol ag anableddau ac mae’n debyg ei fod wedi anfon llythyr at Aelod Seneddol yn sôn am ei gynllun.
Mae 20 o’r bobol sydd wedi’u hanafu yn ddifrifol wael.
Fe wnaeth Uematsu yrru car du, oedd yn cario sawl cyllell, i ganolfan Tsukui Yamayuri-en yn Sagamihara, 30 milltir i’r gorllewin o Tokyo.
Fe gafodd mynediad drwy dorri ffenest am 2:10yb, yn ôl awdurdodau, cyn dechrau torri gyddfau cleifion.
Fe aeth at yr heddlu tua dwy awr ar ôl yr ymosodiad i roi gwybod iddyn nhw am yr hyn roedd wedi’i wneud.
Cafodd ei ddiswyddo o ganolfan Tsukui Yamayuri-en ym mis Chwefror eleni, ac roedd wedi bod yn gweithio yno ers 2012.
“Angen lladd pobol anabl”
Mae’n debyg fod Uematsu wedi dechrau dweud bod angen i bobol ag anableddau gael eu lladd.
Ym mis Chwefror, fe geisiodd anfon llythyr a ysgrifennodd at is-lefarydd Senedd Japan, yn mynnu bod pobol anabl yn cael eu lladd, yn ôl asiantaethau newyddion Kyodo a TBS TV.
Roedd Uematsu wedi honni yn y llythyr bod ganddo’r gallu i ladd 470 o bobol anabl yn yr hyn roedd yn ei alw’n “chwyldro.”
Roedd hefyd wedi gofyn am gael ei ddyfarnu’n ddieuog ar sail gwallgofrwydd, ac am gael 500 miliwn yen (£3.6m) mewn cymorth a thriniaeth gosmetig i fyw bywyd normal ar ôl hynny.
Mae lladd torfol yn brin yn Japan. Mae gan y wlad reolau llym iawn yn ymwneud â gynnau.