Plismon ger safle'r ffrwydrad yn Ansbach, Llun: (AP Photo/Matthias Schrader)
Mae un o brif swyddogion diogelwch Bafaria wedi dweud bod yr heddlu wedi dod o hyd i fideo o’r dyn a ymosododd ar bobol ger gŵyl gerddorol yn Ansbach, yr Almaen nos Sul, yn tyngu llw o deyrngarwch i’r mudiad eithafol, IS.
Daeth yr heddlu o hyd i fideos treisgar a deunydd gwneud bomiau yng nghartref y dyn hefyd.
Mae’r fideo yn dangos y dyn 27 oed yn tyngu llw o deyrngarwch i arweinydd grŵp y Wladwriaeth Islamaidd, neu IS, yn ôl Joachim Herrmann, gweinidog y llywodraeth yn Bafaria.
Mae’r cyfieithiad cyntaf o’r fideo Arabaidd yn dangos y dyn yn cyhoeddi ymosodiad o “ddial” ar yr Almaen.
Fe ffrwydrodd yr hunan-fomiwr ddyfais ger gŵyl gerddorol yn y dref yn ne’r Almaen am tua 10yh nos Sul.
Fe wnaeth y ceisiwr lloches o Syria ladd ei hun ac anafu 12 o bobol eraill, tri ohonyn nhw’n ddifrifol.
“Ymosodiad brawychol”
Yn ôl Joachim Herrmann, mae’r fideo yn awgrymu’n gryf bod y digwyddiad yn “ymosodiad brawychol.”
Daeth yr heddlu o hyd i danwydd, cemegau a deunydd eraill a allai fod wedi cael eu defnyddio i greu bom, meddai.
Cafodd tua 2,500 o bobl eu symud o’r ŵyl gerddorol awyr agored yn Ansbach lle’r oedd yr hunan-fomiwr wedi ceisio cael mynediad ond wedi cael ei wrthod.
Tensiynau yn yr Almaen
Dyma’r trydydd ymosodiad yn rhanbarth Bafaria o’r Almaen o fewn wythnos.
Nos Wener, fe gafodd naw o bobol eu saethu’n farw a dwsinau eu hanafu pan wnaeth dyn 18 oed ymosod ar ganolfan siopa, cyn lladd ei hun.
Bu ymosodiad ar drên gan geisiwr lloches 17 oed o Afghanistan, Riaz Khan Ahmadzai, gyda bwyell ddydd Llun hefyd.
Cafodd pump o bobl eu hanafu a chafodd Ahmadzai ei saethu’n farw gan yr heddlu. Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.
Yn gynharach ddydd Sul, roedd ceisiwr lloches 21 oed o Syria wedi lladd dynes gyda machete ac anafu dau o bobl eraill y tu allan i orsaf fysiau yn ninas Reutlingen yn ne-ddwyrain yr Almaen, cyn cael ei arestio.