Ffoaduriaid o Syria, Llun: PA
Mae llefarydd ar ran Rhif 10 Downing Street wedi amddiffyn penderfyniad Theresa May i gael gwared â swydd y Gweinidog tros ffoaduriaid Syria, er gwaethaf beirniadaeth gan bleidiau eraill.
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog fod Richard Harrington wedi’i benodi i’r rôl hon yn y gorffennol er mwyn sicrhau bod y cynllun o ailgartrefu ffoaduriaid yn cael “dechreuad da.”
“Mae yna weinidogion sydd eisoes â chyfrifoldeb dros fewnfudo a cheisio lloches,” meddai’r llefarydd wrth amddiffyn penderfyniad Theresa May i waredu â’r rôl.
Yn ogystal, mae’n pwysleisio fod y Swyddfa Gartref yn parhau’n ymrwymedig i’r addewid o ailgartrefu 20,000 o ffoaduriaid o Syria erbyn 2020.
‘Siom fawr’
Er hyn, un sydd wedi beirniadu penderfyniad y Prif Weinidog ydy’r AS Ceidwadol, Heidi Allen.
“Fe fydd hi’n siom fawr i golli’r gwaith caled a’r cynnydd rydym ni wedi’i gyflawni,” meddai.
Yn ogystal dywedodd Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol: “Roedd gan y Prif Weinidog newydd gyfle i geisio newid agwedd y Ceidwadwyr ar yr argyfwng dyngarol yn Syria – mae’r arwyddion cyntaf o fethiant eisoes yma,” meddai.