Banc bwyd Llun: Ymddiriedolaeth Trussell
Mae ymchwil newydd yn dangos bod 56% o rieni yng Nghymru yn poeni am gostau ychwanegol ynghylch gofal plant wrth i wyliau’r haf ddechrau.
Yn ôl y ffigurau, bydd un o bob tri rhiant yng Nghymru yn mynd heb o leiaf un pryd bwyd dros yr haf er mwyn sicrhau bod digon o fwyd i’w plant.
Daw’r ffigurau wrth i’r galw am fanciau bwyd yn rhai rhannau o Gymru gynyddu dros y gwyliau, gyda llawer o blant oedd yn cael cinio ysgol am ddim yn ystod y tymor, ddim yn cael dros yr haf.
Mae sawl ysgol yn ardaloedd tlotaf Caerdydd yn parhau i ddarparu cinio ysgol am ddim i blant, ac mae’r elusen banc bwyd, Ymddiriedolaeth Trussell, wedi lansio ‘clybiau gwyliau’ ledled Cymru.
Dros y wlad, cafodd 5,000 yn fwy o becynnau bwyd mewn argyfwng eu rhoi i blant drwy fanciau bwyd ym mis Gorffennaf a mis Awst y llynedd o gymharu â’r ddau fis diwethaf.
Dywedodd Banc Bwyd Caerdydd, sydd ar fin agor ei seithfed canolfan yn y ddinas, ei fod wedi rhoi 8,200 cilogram o fwyd i bobol yn ystod mis Mehefin 2015, ac er bod y ffigwr wedi mynd lawr ychydig ym mis Gorffennaf, cynyddodd i 9,500 cilogram erbyn mis Awst 2015.
Cynyddu bob blwyddyn
Yng Nghaerdydd, mae cynnydd yn nefnydd banciau bwyd wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2009, gyda chynnydd o 12% y llynedd ac 20% y flwyddyn gynt.
“Mae nifer y bwyd sy’n mynd allan a’r bwyd sy’n dod i mewn yn cydbwyso erbyn hyn bron â bod ond mae’n teimlo bod y banciau bwyd yn fwy prysur yn fwy aml,” meddai rheolwr gweithredol banciau bwyd Caerdydd, Catherine Williams, wrth golwg360.
“Beth rydym ni’n gweld yw bod llawer o bobol yn ymdopi bron â bod ond pan fydd rhywbeth yn digwydd, does ganddyn nhw ddim rhwyd ddiogelwch i ddibynnu arni, fel roedd yn arfer bod gan bobol.”
Toriadau i fudd-daliadau
Ychwanegodd mai toriadau i fudd-daliadau, incwm isel a dyled yw’r tri phrif broblem sy’n wynebu pobol sy’n mynd i fanciau bwyd.
“Mae polisi’r llywodraeth wedi bod yn ymwneud a llymder a thoriadau i fudd-daliadau, budd-daliadau yn y gwaith ac i bobol sydd ddim yn gweithio,” meddai Catherine Williams.
“Naill ai maen nhw wedi newid budd-daliadau ac yn aros am un newydd i gael ei brosesu, neu mae ‘na oedi, a’r ddau beth arall yw incwm isel a dyled.
“Mae incwm isel yn broblem fawr, mae pobol yn siarad llawer am gytundebau dim oriau, ac rydym yn cael pobol fel cynorthwywyr dosbarth sydd dim ond yn cael eu talu yn ystod y tymor.”
Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi lansio clybiau gwyliau i blant ledled y wlad i geisio mynd i’r afael a’r galw cynyddol am fanciau bwyd dros yr haf.
Diben y clybiau hyn yw rhoi gweithgareddau hwylus ac addysgiadol i deuluoedd, yn ogystal ag un pryd o fwyd poeth a maethlon.
Yn ôl yr ymchwil YouGov, roedd 91% o rieni yng Nghymru yn cytuno bod hyn yn syniad da ac y byddai’n lleihau’r pwysau ar deuluoedd ar incwm isel dros y gwyliau.
‘Angen ateb hirdymor’
“Does neb wir yn gwybod faint o bobol sy’n llwgu yng Nghymru yn ystod gwyliau’r ysgol eto, ond mae’r ffigurau yn gwneud un peth yn glir: mae llawer o deuluoedd yn agosach i argyfwng nag ydym yn credu,” meddai Tony Graham o’r Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
“Fydd banciau bwyd ar eu pen eu hunain ddim yn dod â llwgu yn ystod gwyliau’r ysgol i ben; ateb tymor hir rhwng y llywodraeth, busnesau, ysgolion ac elusennau fydd yn cael yr effaith fwya’.”
Yn ystod 2015 a 2016, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Trussell ddarparu 1.1 miliwn o becynnau bwyd tri diwrnod mewn argyfwng i bobol oedd eu hangen.