Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Roedd ’na ymateb chwyrn i Ted Cruz yng nghynhadledd y Gweriniaethwyr yn Cleveland, Ohio ar ôl iddo wrthod rhoi ei gefnogaeth yn ffurfiol i Donald Trump.
Cafodd ei fwio gan gefnogwyr Trump, gan daflu cysgod dros araith llywodraethwr Indiana, Mike Pence, sydd wedi cael ei enwebu’n ffurfiol fel dirprwy-arlywydd.
Cafodd seneddwr Texas, Ted Cruz ei drechu gan Donald Trump i ddod yn ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn y ras am y Tŷ Gwyn.
Yn ei araith fe gyfeiriodd Cruz at Trump unwaith yn unig, gan wrthod rhoi ei gefnogaeth iddo. Fe arweiniodd hynny at ymateb chwyrn gan y dorf gan amlygu’r hollt sydd wedi datblygu ymhlith y Gweriniaethwyr yn dilyn ymgyrch dadleuol Trump.
Mae Ted Cruz wedi annog pobl yr Unol Daleithiau i bleidleisio dros ymgeiswyr “y gallwch ymddiried ynddyn nhw i amddiffyn ein rhyddid ac a fydd yn deyrngar i’r Cyfansoddiad.”
Mae disgwyl i’r biliwnydd annerch ei gefnogwyr ar ddiwrnod olaf y gynhadledd.