Francois Hollande, Arlywydd Ffrainc Llun: PA
Fe fydd Theresa May a Francois Hollande yn trafod cynlluniau Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd pan fyddan nhw’n cwrdd am drafodaethau ym Mharis heddiw.

Daeth y gwahoddiad i gwrdd ag Arlywydd Ffrainc ddyddiau’n unig ar ôl i Theresa May ddod yn Brif Weinidog ac fe fydd y ddau yn cwrdd ym Mhalas Elysee.

Daw’r cyfarfod ddiwrnod yn unig ar ôl i Theresa May gwrdd â Changhellor yr Almaen Angela Merkel.

Mewn trafodaeth ym Merlin, dywedodd y Canghellor y dylai Prydain “gymryd saib” i ystyried ei chynlluniau i dorri ei chysylltiad â Brwsel ac fe rybuddiodd yn erbyn gadael y trafodaethau am gyfnod amhenodol.

Mae arweinwyr yr UE wedi ei gwneud yn glir eu bod am i Brydain ddechrau’r broses o adael yr Undeb yn fuan.

Ond mae Merkel wedi dweud y dylai’r DU gymryd ei hamser er mwyn ystyried ei blaenoriaethau.

Mae Theresa May wedi dweud na fydd y broses yn dechrau cyn diwedd y flwyddyn ac mae’n mynnu y bydd yr Almaen yn parhau’n “bartner hanfodol ac yn ffrind arbennig i ni” yn sgil Brexit.