Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Y biliwnydd Donald Trump yw ymgeisydd swyddogol y Gweriniaethwyr yn y ras am arlywyddiaeth America, ar ôl cael ei enwebu’n ffurfiol yng nghynhadledd y blaid yn Cleveland, Ohio.

Llywodraethwr talaith Indiana, Mike Pence, fydd yn cyd-redeg gyda Donald Trump yn yr ymgyrch i berswadio pobol yr Unol Daleithiau mai fe yw’r person gorau i fod yn arlywydd nesaf y wlad.

Bydd yn wynebu Hillary Clinton, ymgeisydd y Democratiaid, fydd yn cael ei henwebu’n swyddogol yr wythnos nesa’, am y ras i’r Tŷ Gwyn.

Mae cefnogwyr Trump yn gobeithio y bydd ei enwebiad swyddogol yn tawelu honiadau o lên-ladrata yn erbyn ei wraig, Melania, a wnaeth ddechrau’r gynhadledd ddoe wrth gyflwyno araith am ei gŵr.

Mae wedi’i chyhuddo o gopïo dau baragraff, bron gair am air, o araith Michelle Obama yng nghynhadledd y Democratiaid yn 2008.

Fe fynnodd ymgyrch Donald Trump nad oedd tystiolaeth o lên-ladrata, ond daeth dim eglurhad am pam oedd y ddau baragraff mor debyg i’w gilydd.