Y gwasanaethau brys ar safle'r ddamwain Llun: PA
Mae ymchwiliad i ddamwain drên a laddodd 22 o bobol yn ne’r Eidal yn canolbwyntio ar system ffôn hynafol.

Roedd y system yn cael ei defnyddio i roi gwybod i reolwyr gorsafoedd fod trenau’n teithio ar gledrau sengl.

Mae gweithwyr wedi bod yn gweithio drwy’r nos i symud y trenau a darodd yn erbyn ei gilydd rhwng Andria a Corato yn rhanbarth Puglia.

Dywedodd arweinwyr undebau a’r heddlu fod gwall dynol ar fai, gan ddweud nad oedd system awtomatig yn ei lle a fyddai’n rhoi gwybod fod dau drên yn agos i’w gilydd.