Llun: Gwasanaeth Tân y De
Mae hyd at 100 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn ceisio atal tân mewn ffatri ail-gylchu teiars yn Aberafan ym Mhort Talbot.

Dechreuodd y tân toc cyn 11yh nos Fawrth.

Ar ei anterth, roedd swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub y De ac o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn brwydro yn erbyn y tân.

Ond does dim lle i gredu bod unrhyw un wedi cael ei anafu.

Mae trigolion lleol wedi cael rhybudd i gadw eu ffenestri ynghau, ac mae nifer o ffyrdd yn yr ardal wedi cael eu cau.