Theresa May (Llun o'i gwefan)
Mae disgwyl i Theresa May benodi gweinidog i fod yn gyfrifol am dynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd pan fydd hi’n dod yn Brif Weinidog yn ddiweddarach ddydd Mercher.

Yr Ysgrifennydd Cartref sy’n olynu David Cameron yn dilyn ei benderfyniad i ymddiswyddo ar ôl canlyniad y refferendwm Ewropeaidd fis diwethaf.

Bydd May yn dechrau penodi gweinidogion i’w Chabinet heno, ac mae disgwyl cynnydd sylweddol yn nifer y menywod fydd yn y prif swyddi.

Un o ddyletswyddau olaf Cameron fydd Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan.

Mae disgwyl iddo dynnu sylw mewn araith at y ffaith ei fod e wedi goruchwylio adferiad economaidd Prydain.

Yn dilyn y sesiwn, fe fydd e’n teithio i Balas Buckingham i gynnig ei ymddiswyddiad yn ffurfiol, cyn i’w olynydd deithio yno i dderbyn y cais yn ffurfiol i ffurfio llywodraeth newydd.

‘Braint’

Dywedodd Cameron wrth y Daily Telegraph y bu’n “fraint” bod yn Brif Weinidog, ac mai Theresa May yw’r “person cywir i arwain y wlad yn ddoeth drwy’r amserau anodd sydd o’n blaenau”.

Er bod May yn cefnogi aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, mae hi wedi mynnu bod “Brexit yn golygu Brexit” ac i’r perwyl hwnnw, mae disgwyl iddi benodi gweinidog fydd yn gyfrifol am dynnu Prydain allan o’r Undeb. Mae’r chwilio am adeilad newydd ar gyfer yr adran eisoes wedi dechrau.

Mae disgwyl na fydd George Osborne yn aros fel Canghellor, ac fe allai Philip Hammond gymryd ei le.

Mae disgwyl lle yn y Cabinet hefyd i Chris Grayling ac un arall o’r ymgeiswyr gwreiddiol am yr arweinyddiaeth, Andrea Leadsom.

Ond mae amheuon o hyd a fydd dau arall o’r ymgeiswyr, Boris Johnson a Michael Gove yn cael cynnig swydd yn y Cabinet.