Prif Weinidog yr Eidal, Matteo Renzi
Mae o leiaf 20 o bobl wedi’u lladd a degau o rai eraill wedi’u hanafu ar ôl i ddau drên wrthdaro yn ne’r Eidal.

Yn ôl adroddiadau fe ddigwyddodd y ddamwain ger tref Andria, yn ardal Puglia tua 11.30yb (amser lleol).

Mae lluniau o’r safle yn dangos bod cerbydau’r ddau drên  wedi dod oddi ar y cledrau.

Yn ôl adroddiadau lleol mae timau achub yn tynnu pobl sydd wedi’u hanafu o’r cerbydau, gan gynnwys plentyn ifanc.

Mae Prif Weinidog yr Eidal Matteo Renzi wedi dweud y bydd ymchwiliad llawn i ddarganfod beth oedd achos y ddamwain.