Mae angen clywed “mwy o straeon am Gymru ar y sgrin ar draws Cymru, ac ar draws y DU” meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies wrth ymateb i adroddiad olaf Cyngor Cynulleidfaoedd Cymru heddiw.
Er bod mwy o gynyrchiadau teledu rhwydwaith yn dod o Gymru nag erioed o’r blaen, mae’r adroddiad yn dweud nad yw’r rhaglenni hynny wedi gwneud digon i adlewyrchu’r genedl i’w hun, nac i weddill y DU.
Mae’r corff, sy’n goruchwylio allbwn BBC Cymru, wedi mynegi pryderon nad oes digon o bortread o Gymru, yn enwedig mewn rhaglenni drama a chomedi ar deledu a radio.
Mae arolwg y tîm rheoli – a gyhoeddwyd ochr yn ochr ag adolygiad Cyngor Cynulleidfa Cymru o’r flwyddyn – yn datgelu bod y BBC, yn 2015/16, wedi comisiynu mwy na £59m o raglenni rhwydwaith o Gymru – y lefel uchaf erioed. Roedd hyn yn cyfrif am 7.1% o holl wariant teledu rhwydwaith y BBC.
Roedd yn cynnwys Sherlock, Hinterland/Y Gwyll, Doctor Who, Crimewatch, BBC Canwr y Byd Caerdydd, The Wanted a chystadleuaeth newydd BBC Young Dancer.
Gwasanaethau ar-lein
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos fod nifer o wasanaethau ar-lein, cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau symudol BBC Cymru wedi “tyfu’n eithriadol.”
Mae’r adolygiad yn dangos fod dyfeisiadau symudol – gan gynnwys dyfeisiadau tabled – yn hawlio bron i ddwy ran o dair (62%) o ddefnydd ar-lein, gyda chyfrifiaduron a gliniaduron yn gostwng i 33%.
Gyda 3.46 miliwn o borwyr unigryw wythnosol yn defnyddio gwasanaethau ar-lein Saesneg BBC Cymru, mae’r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at dwf BBC iPlayer, BBC Cymru Fyw a gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol.
Yn ôl yr adroddiad, fe fu cynnydd mawr yn nifer y porwyr wythnosol o ran gwasanaethau Cymraeg ar-lein, i fyny o 89,000 i 193,000. Mae blwyddyn lawn gyntaf S4C ar BBC iPlayer wedi gwneud “cyfraniad mawr”, meddai’r adroddiad.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos y bu gostyngiad yn nifer gwrandawyr Radio Cymru o 119,000 yn 2014/15 i 111,000 yn 2015/16. Gostwng hefyd wnaeth nifer gwrandawyr Radio Wales o 418,000 yn 2014/15 i 382,000 yn 2015/16.
‘Amddiffyn i’r carn’
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Cymru yw un o gymunedau creadigol mwyaf cyffrous Ewrop ac mae’r adolygiad yn dathlu cyflawniadau cymaint o unigolion a thimau talentog y tu mewn a thu allan i’r BBC.
“Mae’n dda gweld y cynnydd ry’n ni’n ei wneud o ran gwasanaethu ein cynulleidfaoedd ar ddyfeisiadau symudol, ac ry’n ni’n benderfynol o gynyddu ein harloesedd yn y maes.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi gweld dadl gref ynglŷn â dyfodol y BBC yng Nghymru. Mae hynny i’w groesawu’n wresog.
“Dim ond drwy ei amddiffyn i’r carn y gall darlledu cyhoeddus dyfu a ffynnu. Bydd rhaid craffu’n fanwl a pheidio â bod ofn bod yn uchelgeisiol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei gyflawni a’r newid all ddod o hynny.
“Mae’r sialens ry’n ni wedi’i gosod yn glir: i glywed mwy o straeon am Gymru ar y sgrin ar draws Cymru, ac ar draws y DU. Dyma’r math o sialens greadigol ry’n ni’n ei mwynhau.”