A hithau’n wythnos yr Etholiad Cyffredinol bellach, dyma sut mae ein colofnydd Huw Prys Jones yn ei gweld hi…


Wrth i nifer ein hetholaethau seneddol ostwng o 40 i 32, mae Cymru’n profi’r newid mwyaf i ffiniau’r map gwleidyddol ers ehangu’r hawl i bleidleisio i bob oedolyn dros ganrif yn ôl.

Os ydi’r arolygon barn, a’r argraffiadau gaiff eu hadrodd ar lawr gwlad, yn gywir, mae’r newid hwn yn digwydd law yn llaw â daeargryn gwleidyddol.

Ni all neb ohonom, wrth gwrs, ddweud i sicrwydd faint yn union o seddau fydd gan bob plaid yng Nghymru erbyn fore Gwener. Eto i gyd, mae ystod y posibiliadau gwahanol yn gymharol gul, gyda mwyafrif llethol y seddau yn rhai cymharol saff i Lafur.

Gallwn fod yn weddol sicr hefyd y bydd y Torïaid yn colli pob un o’u seddau yng Nghymru. Hyd yn oed os na fydd Reform, plaid Nigel Farage, yn gwneud lawn cystal â’r disgwyl, mi fydd wedi tynnu digon oddi ar y Torïaid i’w hamddifadu o aelodau seneddol yng Nghymru. Tan yn ddiweddar, roedd arolygon yn awgrymu mai sedd newydd Maldwyn a Glyndŵr oedd eu gobaith gorau o gadw sedd yng Nghymru. Bellach, yn sgil helyntion eu hymgeisydd Craig Williams, does ganddyn nhw neb yn sefyll drostyn nhw’n swyddogol yno.

Y tro diwethaf i Gymru fod heb yr un aelod seneddol Ceidwadol oedd etholiadau 1997 a 2001. Bryd hynny, llwyddodd Plaid Cymru i ennill pedair sedd a’r Democratiaid Rhyddfrydol ddwy. Byddai’r ddwy blaid ar ben eu digon os byddan nhw’n llwyddo i wneud yr un fath y tro hwn – er y gall fod yn haws i Blaid Cymru ennill pedair nag y bydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill dwy.

Byddai hynny’n gadael 26 o etholaethau ar ôl i Lafur, ond gallai hyd at 30 fod o fewn eu cyrraedd pe bai gogwydd tuag ati yn digwydd yn y diwrnod neu ddau olaf.

Rhagolygon Plaid Cymru

Gan mai dewis llywodraeth i’r wladwriaeth Brydeinig ydi prif ddiben etholiadau San Steffan, mae’n anochel eu bod yn dalcen caled i bleidiau bach fel Plaid Cymru.

Dydi Plaid Cymru ddim bob amser chwaith wedi ymateb yn effeithiol i’r anawsterau sydd wedi’u pentyrru yn ei herbyn. Yn etholiad 2010, er enghraifft, gwastraffodd lawer o’i hymgyrch yn cwyno am nad oedd ei harweinwyr yn cael cymryd rhan mewn dadleuon teledu Prydeinig. Er iddyn nhw ennill y frwydr honno ers sawl etholiad bellach, anodd yw gweld faint o wir wahaniaeth mae hynny wedi’i wneud i’w rhagolygon. Er gwaethaf perfformiadau da gan ei harweinwyr, mae trefn y dadleuon hyn yn tueddu i danlinellu pa mor ymylol ydi’r pleidiau lleiafrifol i brif bynciau’r etholiad.

Ar ben hyn, mae lleihau nifer yr etholaethau yn gosod llyffetheiriau o’r newydd iddi. Gyda sedd Arfon yn diflannu, mae’n golygu un sedd yn llai o’r cychwyn. Etholaethau Dwyfor Meirionnydd a Cheredigion a Gogledd Penfro yw’r unig ddwy y gellir eu hystyried yn rhai diogel iddi.

Yn wahanol hefyd i etholiad 2019, pan oedd Plaid Cymru’n gallu cyflwyno neges ddigyfaddawd yn erbyn Brexit, mae wedi bod yn fwy anodd iddi gyflwyno neges mor glir y tro hwn. Heb ddim rhagolygon o gwbl o senedd grog, mae’n fwy anodd iddi hefyd allu argyhoeddi pobol faint o ddylanwad fydd ganddi.

Er gwaethaf hyn i gyd, mae eu rhagolygon yn sylweddol well ar ddiwedd yr ymgyrch nag oedden nhw ar y dechrau. Ac mae’n eironig y gall cryn dipyn o’r diolch am hynny fod i ddyn sy’n gwbl wrthun yn eu golwg – sef neb llai na Nigel Farage.

Does dim amheuaeth y bydd y pleidleisiau y bydd Reform yn eu hennill ym Môn a Sir Gâr yn gwella siawns Plaid Cymru yn yr etholaethau hynny. I ddechrau, byddan nhw yn tynnu’r Torïaid allan o’r ras i bob pwrpas, a’u gadael yn ornestau rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Ond yn fwy na hynny, bydd yn gadael nifer sylweddol o Dorïaid mwy cymedrol a fydd yn gwbl ddirmygus o Nigel Farage, ond a fydd yn awyddus i rwystro gor-fwyafrif Llafur. Gallai rhai o’r rhain fod yn agored i ystyried Plaid Cymru fel ffordd gredadwy o geisio sicrhau hyn.

Y cwestiwn i Blaid Cymru yn nyddiau olaf yr ymgyrch fydd sut i fanteisio i’r eithaf ar y sefyllfa hon. Gydag amser mor brin bellach, y cyfan y gallan nhw ei wneud fydd ailadrodd yn barhaus mai Plaid Cymru ydi’r unig wrthwynebydd credadwy i Lafur yng Nghymru. Ac mai ffolineb ydi ethol gormod o aelodau Llafur i gynyddu mwy fyth ar fwyafrif i Keir Starmer.

Does dim amheuaeth y byddai llwyddo i gipio pedair sedd yn gam mawr ymlaen i Blaid Cymru. Er na fyddai hyn yn golygu ennill tir o’r newydd, dyna fyddai’r tro cyntaf iddyn nhw ddal pob etholaeth orllewinol o Fôn i Gaerfyrddin efo’i gilydd. O ganlyniad, byddai’n golygu bod eu hetholaethau’n ymestyn dros ddarn helaethach nag erioed o’r blaen o Gymru. Hefyd, byddai ennill pedair sedd allan o 32 yn gynnydd ar bedair sedd allan o 40 – sef canlyniad nad oedd erioed wedi rhagori arno o’r blaen.

Democratiaid Rhyddfrydol

Mae ychydig yn fwy anodd rhagweld beth ydi rhagolygon y Democratiaid Rhyddfrydol o ennill sedd yn yr etholiad. Mae’n ymddangos bod y blaid wedi cael adfywiad mewn amryw o etholaethau Torïaidd yn ne Lloegr, ac ôl dioddef colledion enbyd dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’n ymddangos hefyd fod ei chefnogaeth wedi’i chanolbwyntio mewn etholaethau penodol, a barn yr arolygon ydi mai dwy etholaeth Powys yw ei gobeithion mwyaf y tro hwn. Fodd bynnag, gyda rhannau o ardaloedd mwy diwydiannol yn ardal Wrecsam wedi’u hychwanegu at etholaeth Maldwyn, a rhan uchaf Cwm Tawe at Frycheiniog a Maesyfed, gallai’r seddau hyn fod o fewn cyrraedd Llafur hefyd.

Byddai hynny’n fuddugoliaeth ysgubol iddi, ac yn codi nifer eu haelodau seneddol at yn agos i 30. Byddai llwyddiant o’r fath yn sicr o godi cwestiynau pam na wnaeth y pleidiau eraill fwy o ymdrech i fanteisio ar gamweddau ac ymddygiad Vaughan Gething fel modd o’i phardduo.

Effaith Reform UK

Beth bynnag fydd y cyfrif terfynol, mae natur buddugoliaeth ysgubol Llafur y tro hwn yn debygol o fod yn wahanol iawn i’r un a gafodd yn 1997. Bryd hynny, roedd gogwydd amlwg o’r Torïaid at Blaid Lafur Tony Blair. Y tro hwn, y prif reswm dros chwalfa’r Torïaid fyddai eu colledion i Reform UK. Mewn geiriau eraill, rhaniad yn yr asgell dde wleidyddol sydd ar waith yn hytrach na gogwydd tua’r chwith.

Yn wahanol i’r pleidiau eraill, ni fydd Reform UK yn disgwyl ennill seddau yng Nghymru y tro hwn. Eu nod nhw, yn hytrach, fydd ar geisio’r cyfanswm uchaf posibl o bleidleisiau, gyda’r nod o guro cyfansymiau’r Torïaid a Phlaid Cymru.

Go brin fod y gefnogaeth debygol i Reform UK yng Nghymru yn yr etholiad yn destun balchder i neb sy’n credu yn hunaniaeth Cymru. Maen nhw’n debygol iawn o ennill mwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru mewn amryw o gymoedd ôl-ddiwydiannol y de, gan ddryllio’r ddelwedd ddelfrydgar sydd gan lawer o genedlaetholwyr Cymraeg o’r cymoedd hynny.

I blaid mor agored genedlaetholgar Seisnig, roedd yn annisgwyl ar un ystyr eu gweld yn rhoi cymaint o sylw i Gymru. Roedd yn arwyddocaol eu bod wedi dewis lansio eu hymgyrch etholiad yn y Gurnos ym Merthyr. Mae’n amlwg eu bod yn deall bod carfan weddol sylweddol o bobol mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol o’r fath, sydd, er eu bod yn casáu’r Torïaid, â daliadau gwleidyddol eithaf pell i’r dde.

Mwy arwyddocaol o bosibl oedd nad ydi diddymu Senedd Cymru yn rhan o’u rhaglen wleidyddol. Mae hyn er gwaethaf y ffaith y byddai hyn yn debygol o fod yn gynnig poblogaidd ymysg cnewyllyn caletaf eu cefnogwyr. Mae’n awgrymu eu bod yn anelu at ehangu eu hapêl ymhell y tu hwnt i’r garfan fach hon.

Mae hi lawn mor debygol eu bod yn edrych ymhellach i’r dyfodol at etholiad Senedd Cymru yn 2026. Os ydyn nhw’n cael y math o gefnogaeth mae’r arolygon barn yn ei awgrymu ar hyn o bryd, gallan nhw yn hawdd ddisgwyl ethol o leiaf 15-20 o aelodau i Senedd Cymru ymhen dwy flynedd.

Bydd hyn yn bennaf oherwydd Mesur Diwygio Senedd Cymru a ddaeth i rym yr wythnos ddiwethaf, a fydd yn cynyddu nifer yr aelodau i 96, gyda phob un wedi ei ethol drwy restrau caeëdig.

Yn wahanol i’r drefn bresennol, lle mae’r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn gorfod cyfiawnhau eu hunain gerbron yr etholwyr, mi fydd Reform UK yn gallu llenwi eu rhestrau ag unrhyw ffyliaid, waeth pa mor anaddas fyddan nhw ar gyfer y gwaith. Rydym eisoes wedi gweld yn yr etholiad hwn beth ydi safon llawer o’u hymgeiswyr. Bydd eu hymgyrch wedi’i seilio’n gyfangwbl ar apêl bersonol eu harweinydd Nigel Farage. Gallwn fod yn sicr na fydd gan yr aelodau a gaiff eu hethol ar sail hyn unrhyw gyfraniad adeiladol i’w wneud at Senedd Cymru.

Ac ar bwy fydd y bai am hyn i gyd? Mae’r ateb yn gwbl syml – sef ar bob un o’r aelodau Llafur a Phlaid Cymru o Senedd Cymru a bleidleisiodd dros wallgofrwydd trefn seiliedig ar restrau caeëdig ar gyfer etholiadau. Trwy anwybyddu’r rheini a oedd yn rhybuddio yn erbyn peryglon trefn o’r fath, rydych wedi rhoi gôl agored i Nigel Farage ac agor y drws i garfan o aelodau na fydd yn gwneud dim ond dwyn anfri ar Senedd Cymru.