Mae Rhun ap Iorwerth yn galw ar bleidleiswyr i beidio â gadael i Lafur gymryd Cymru’n ganiataol.
Dridiau’n unig cyn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau (Gorffennaf 4), mae arweinydd Plaid Cymru’n rhybuddio y bydd “Cymru heb lais yn San Steffan” heb fod nifer o ymgeiswyr y Blaid yn cael eu hethol yn aelodau seneddol.
Mae hi “ar ben” ar y Ceidwadwyr, meddai, ac mae disgwyl i Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur, ennill yr allweddi i Rif 10 Downing Street ac mae “perygl gwirioneddol y byddan nhw, yn syml iawn, yn cymryd Cymru’n ganiataol”.
Mae’n beirniadu’r ddwy blaid am roi chwip San Steffan uwchlaw buddiannau cymunedau Cymru, wrth ddweud bod eu hagweddau tuag at ariannu teg, arian canlyniadol HS2, y cap ar fudd-daliadau i ddau blentyn, a phwerau dros gyfiawnder a phlismona “wedi amlygu eu blaenoriaethau go iawn”.
Ymgeiswyr Plaid Cymru “wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau”
“Gyda dim ond tridiau cyn i bleidleiswyr ledled y Deyrnas Unedig fynd i’r orsaf bleidleisio, mae’n gliriach nag erioed y bydd Cymru heb lais yn San Steffan heb garfan gref o aelodau seneddol Plaid Cymru,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae’r ymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol wedi amlygu blaenoriaethau go iawn Llafur a’r Torïaid, ac yn syml iawn dydy Cymru ddim yn rhan ohonyn nhw.
“Ar gytundeb ariannu teg i Gymru, y £4bn sy’n ddyledus i ni mewn arian canlyniadol, y cap creulion ar fudd-daliadau i ddau blentyn, a phwerau dros gyfiawnder a phlismona, ychydig iawn sy’n gwahanu Llafur a’r Torïaid.
“Pan fydd pobol yn pleidleisio ddydd Iau, maen nhw’n disgwyl i’w haelod seneddol godi llais drostyn nhw a’u cymuned, ac nid i ddilyn chwip San Steffan ar bob cyfri.
“O Llinos Medi ar Ynys Môn i Ann Davies yng Nghaerfyrddin, mae ymgeiswyr Plaid Cymru wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, gan roi buddiannau Cymru’n gyntaf bob tro.
“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi ar ben ar y Ceidwadwyr, a dydy’r dirmyg maen nhw’n ei ddangos tuag at Gymru’n ddim byd newydd – ond gyda Llafur ar fin mynd i mewn i Downing Street ddydd Gwener, mae perygl gwirioneddol y byddan nhw, yn syml iawn, yn cymryd Cymru’n ganiataol.
“Fe fu rhagrith Llafur o ran HS2 a rhagor o bwerau i Gymru’n glir i bawb ei weld dros yr wythnosau diwethaf – dydy Keir Starmer ddim yn malio, ac mae Vaughan Gething yn rhy wan i sefyll i fyny iddo fo.”