Baghdad Llun: PA
Mae nifer y meirw wedi ymosodiad bom yn Baghdad wedi codi i 149, meddai swyddogion yn Irac.

Mae’r grŵp eithafol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ddydd Sul pan ffrwydrodd lori mewn stryd brysur yn y brifddinas Baghdad.

Dyma’r ymosodiad brawychol gwaethaf yn Irac ers blwyddyn ac un o’r rhai gwaethaf mewn degawd o ryfel a gwrthryfel.

Dywed yr heddlu y gallai nifer y meirw gynyddu wrth i dimau achub chwilio am ragor o bobl sydd ar goll.

Cafodd o leiaf 192 o bobl eu hanafu.

Mae’r Prif Weinidog Haider al-Abadi wedi gorchymyn bod mesurau diogelwch newydd yn cael eu cyflyno yn y brifddinas.