Mae o leiaf 79 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn ffrwydrad car yn Baghdad.

Cafodd 160 o bobol eu hanafu yn yr ymosodiad ym mhrifddinas Irac, ac mae’r Wladwriaeth Islamaidd hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad.

Digwyddodd yr ymosodiad wrth i deuluoedd gerdded ar y strydoedd yn nhalaith Karada ar ôl iddyn nhw fod yn ymprydio ar gyfer Ramadan.

Yn dilyn ail ffrwydrad, cafodd pump o bobol eu lladd, ac 16 eu hanafu.

Daw’r ymosodiadau ar ôl i filwyr Irac gipio dinas Fallujah yn ôl oddi ar y Wladwriaeth Islamaidd.