Mae dau o brif arweinwyr IS (y Wladwriaeth Islamaidd) wedi’u lladd yn ystod cyrch o’r awyr gan awyrennau rhyfel yr Unol Daleithiau yng ngogledd Irac.
Mae’r Pentagon yn dweud heddiw fod y cyrch ar ddinas Mosul ar Fehefin 25 wedi lladd y dirprwy weinidog rhyfel, Basim Muhammad Ahmad Sultan al-Bajari, ynghyd a’r cydlynydd milwrol, Hatim Talib al-Hamduni.
Mae Mosul, ail ddinas fwya’ Irac, yn parhau i fod dan reolaeth IS.
Ond mae IS wedi diodde’ ambell i ergyd yn ddiweddar, gan golli tir yn y wlad. Er hynny, mae’n parhau i ymosod ar y brifddinas, Baghdad, yn gyson.