Llun: PA
Mae cwmni Volkswagen wedi cyhoeddi eu bod yn barod i drwsio neu brynu cerbydau disel llygredig yn ôl gan gwsmeriaid yn yr Unol Daleithiau – yn dilyn y sgandal mwyaf yn y diwydiant ceir.
Fe ddaeth i’r amlwg y llynedd fod y cwmni wedi twyllo profion allyriadau’r cerbydau ac, am hynny, maen nhw wedi cadarnhau y byddan nhw’n talu hyd at £7,500 i berchnogion fel rhan o setliad cyfreithiol gwerth £11 biliwn.
Mae disgwyl i tua 475,000 o gerbydau Volkswagen gael eu trwsio neu eu prynu’n ôl sydd â pheiriant disel dau litr sydd â meddalwedd sy’n twyllo profion allyriadau.
Dywedodd llefarydd y byddai pob perchennog yn cael gwerth 5,100 a 10,000 o ddoleri o iawndal yn ychwanegol hefyd.