Yr Uchel Lys
Mae her yn erbyn dau gyngor o Gymru am “foicotio” cynnyrch o Israel a gafodd eu cynhyrchu ar y Lan Orllewinol wedi cael ei wrthod gan yr Uchel Lys yn Llundain

Roedd y Jewish Human Rights Watch (JHRW) wedi cyflwyno her yn dadlau bod y cynghorau, wrth gytuno i foicotio’r cynnyrch, wedi torri dyletswyddau cydraddoldeb ac wedi methu ag ystyried “yr angen i ddod â gwahaniaethau yn erbyn Iddewon i ben.”

Cyngor Abertawe, Cyngor Gwynedd a Chyngor Caerlŷr oedd yn wynebu’r achos yn eu herbyn, gyda’u cyfreithwyr yn dweud bod yr achos wedi cael ei “gamddeall.”

Roedd y JHRW hefyd yn dadlau bod y cynghorau wedi anwybyddu’r angen i feithrin perthynas dda rhwng Iddewon a phobol sydd ddim yn Iddewon.

Fe wnaeth cyfreithwyr y tri chyngor ddadlau bod y grŵp am “atal awdurdodau lleol rhag trafod gweithredoedd Israel.”

Daeth yr achos i ben ddydd Mawrth wrth i’r Arglwydd Ustus Simon a Mr Ustus Flaux wrthod yr honiadau, gan ddweud eu bod yn methu ar sail y ffeithiau a’r egwyddorion cyfreithiol perthnasol.