Mae Rory McIlroy wedi tynnu nôl o’r Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro yn sgil pryderon am y firws Zika ym Mrasil.
Roedd disgwyl i’r golffiwr, sy’n rhif pedwar yn y byd, gynrychioli Iwerddon yn y Gemau.
Ond bellach, fe ddywedodd mewn datganiad na fydd e’n mynd i’r Gemau wedi’r cyfan.
McIlroy yw’r diweddaraf ar restr faith o golffwyr sydd wedi tynnu nôl o’r Gemau – a’r rhestr honno’n cynnwys Marc Leishman, Louis Oosthuizen, Charl Schwartzel, Adam Scott a Vijay Singh.
Yn ei ddatganiad, dywedodd Rory McIlroy: “Ar ôl tipyn o feddwl ac ystyried, rwy wedi penderfynu tynnu fy enw’n ôl o gael fy ystyried ar gyfer y Gemau Olympaidd yr haf yma yn Rio de Janeiro.
“Ar ôl siarad â’r rheiny sydd agosaf ataf, rwy wedi dod i sylweddoli bod fy iechyd innau a iechyd fy nheulu’n dod gyntaf cyn unrhyw beth arall.
“Er bod y risg o gael haint o firws Zika yn cael ei hystyried yn un isel, mae hi’n dal yn risg ac yn risg nad ydw i’n fodlon ei chymryd.
“Gobeithio y bydd pobol Iwerddon yn deall fy mhenderfyniad.”
Ychwanegodd ei fod e’n gwerthfawrogi cefnogaeth y Gwyddelod ac y byddai’n ceisio parhau i fod yn destun balchder iddyn nhw.
Mae Rickie Fowler, yn y cyfamser, wedi awgrymu y gallai yntau dynnu allan o’r Gemau yn Rio.
Dyma’r tro cyntaf i golff gael ei chynnwys yn y Gemau Olympaidd ers 1904.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Olympaidd Iwerddon: “Mae’r OCI yn hynod siomedig na fyddwn ni’n mynd â Rory gyda ni i Rio.
“Fodd bynnag, fel rydyn ni wedi dweud erioed, penderfyniad yr unigolyn yw e ac wrth gwrs, rydyn ni’n parchu ei benderfyniad y mae e wedi’i wneud am resymau personol.”
Ychwanegodd yr OCI fod y newyddion yn cynnig cyfle i golffiwr arall o Iwerddon gymryd rhan yn y Gemau Olympaidd.
‘Siomedig’
Mae’r Ffederasiwn Golff Rhyngwladol (IGF) hefyd wedi mynegi eu siom ynghylch penderfyniad McIlroy.
Dywedon nhw eu bod nhw’n “siomedig” o glywed na fydd y Gwyddel yn mynd i Rio, a’i bod yn “anffodus” fod y pryderon wedi arwain at benderfyniad McIlroy.