Jade Jones yn gobeithio amddiffyn y teitl enillodd hi yn Llundain yn 2012
Mae Jade Jones wedi’i henwi yng ngharfan taekwondo Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Rio de Janeiro.

Bydd y gystadleuwraig o’r Fflint, sy’n rhif un yn y byd, yn gobeithio amddiffyn ei theitl yn y categori 57kg.

Bellach, mae 14 o Gymry yn nhîm Prydain mewn amryw gampau.

Ers ei llwyddiant yng Ngemau Olympaidd Llundain bedair blynedd yn ôl, daeth hi’n bencampwraig Grand Prix y Byd, a phencampwraig Ewrop ddwy waith.

Ar ôl cyhoeddi’r tîm, dywedodd Jade Jones wrth y BBC: “Rwy’n mynd i Rio am y [fedal] aur.

“Bydda i’n gadael popeth ar y mat ac rwy am fod y gorau sy’n fy ngwneud i’n fwy awchus nag erioed ac yn fwy penderfynol nag erioed o lwyddo.”

Y Cymry sydd wedi cymhwyso mor belled:

Hwylio: Chris Grube, Hannah Mills

Jiwdo: Natalie Powell

Nofio: Jazz Carlin, Georgia Davies, Ieuan Lloyd, Chloe Tutton

Paffio: Joe Cordina

Rhwyfo: Chris Bartley, Graeme Thomas

Saethu: Elena Allen

Treiathlon: Helen Jenkins, Non Stanford