Heddlu Gwlad Belg ar batrol ym Mrwsel Llun: PA
Mae canolfan siopa fawr ym Mrwsel wedi cau yn dilyn adroddiadau am “becyn amheus”.

Yn ôl papur newydd Standaard, roedd dyn wedi ffonio’r heddlu yn bygwth ffrwydro bom y tu allan i’r ganolfan siopa.

Mae erlynwyr ym Mrwsel wedi cadarnhau bod dyn wedi cael ei arestio ond nad oedd ffrwydron wedi cael eu darganfod. Mae’n cael ei holi ar hyn o bryd.

Fe wnaeth Prif Weinidog Gwlad Belg, Charles Michel, gynnal cyfarfod diogelwch cenedlaethol brys.

Dywedodd yn ddiweddarach bod y sefyllfa bellach “o dan reolaeth” ond bod y gwasanaethau diogelwch “yn parhau’n wyliadwrus iawn.”

Er hynny, nid yw lefel bygythiad o frawychiaeth na mesurau diogelwch y wlad wedi newid.

Dywedodd un o ddarlledwyr Gwlad Belg, RTL, fod pob siop wedi cael ei gwagio, ar ôl i’r heddlu gael rhybudd bod gan y dyn ffrwydron.

Fe wnaeth yr heddlu a’r fyddin wneud patrol ger o leiaf un brif fynedfa yng nghanolfan siopa City 2 yn y brifddinas.

Ymosodiadau diweddar

Mae Gwlad Belg wedi bod yn byw dan fygythiad  ymosodiadiadau posib ers yr ymosodiadau brawychol ym Mharis ym mis Tachwedd.

Roedd rhai aelodau o’r grŵp oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau a laddodd 130 yn  y brifddinas, yn dod o Wlad Belg neu wedi byw ym Mrwsel.

Ar 22 Mawrth eleni, bu ymosodiadau ar system danddaearol Brwsel, a’i maes awyr, gan ladd 32 o bobol.