Cefnogwyr Cymru yn dathlu ar ol buddugoliaeth yn erbyn Rwsia yn Toulouse. Llun: Martin Rickett/PA
Wedi’r llwyddiant ysgubol neithiwr, mae cefnogwyr pêl droed Cymru a’r chwaraewyr yn edrych ymlaen at y gêm nesaf ym Mharis ddydd Sadwrn.

Wrth guro Rwsia yn Toulouse o 3-0, nid yn unig mae Cymru wedi sicrhau ei lle yn 16 olaf y gystadleuaeth, ond mae hefyd ar frig ei grŵp.

Fe gurodd Lloegr i’r safle hwnnw ar ôl i’r hen elyn berfformio’n siomedig yn eu gêm nhw yn erbyn Slofacia, gyda gêm gyfartal 0-0.

Fe wnaeth rheolwr Cymru, Chris Coleman, gamnol angerdd y bechgyn yn dilyn y fuddugoliaeth.

“Fel cenedl, yn ddaearyddol, rydym yn fach, ond os byddwch yn ein barnu ar ein hangerdd, rydym yn gyfandir, achos roedd hwnna’n anhygoel,” meddai ar ôl y gêm.

Bydd y gêm nesaf yn y Parc des Princes ym mhrifddinas Ffrainc, a chawn wybod pwy fydd y tîm yn ei wynebu dydd Mercher.


Chris Coleman yn dathlu neithiwr (Llun: PA)
‘Cyfle unwaith mewn bywyd’

Ac o’r degau o filoedd o Gymry sydd eisoes yn y wlad yn cefnogi’r tîm, mae llawer ohonynt yn barod yn ystyried aros yn Ffrainc neu deithio nôl ar gyfer y gêm.

“Os af i Baris, bydd angen i mi wneud fy ngolch yn gynta’, gan ‘mod i’n dechrau rhedeg allan o ddillad,” meddai Bryan Hughes, 67, o Wrecsam.

“Dwi am edrych fory i weld os alla’i aros yma, ond hyd yn oes os af i adre fory, gallaf ddweud fy ‘mod i wedi cael amser gwych yma.”

Dywedodd Jamie Harries, 21, o Wrecsam hefyd: “Ar hyn o bryd, rydan ni’n bwriadu mynd adre fory, ond falle byddwn yn hedfan yn ôl.

“Mae wedi bod yn gyfle unwaith mewn bywyd i ni. Roedd y rowndiau grŵp yn ddigon, ond mae sicrhau lle ar y brig ar lefel arall.”

Nid oedd taith Michael Pugh, 25, o Flaenau Ffestiniog, wedi dechrau yn y ffordd orau ar ôl iddo daro ei gamperfán yn erbyn pont isel yn Rouen, gan dynnu hanner y to i ffwrdd.

Fe wnaeth e a’i dri ffrind deithio ar y trên ar ôl hynny, ond maen disgwyl iddyn nhw ddod adre wedi i’r rowndiau grŵp ddod i ben.

Er hynny, mae’r pedwar yn ystyried aros neu ddod yn ôl ar gyfer y rowndiau cynderfynol, gan ddweud, “Mae wedi bod yn antur, pam na fyddwn ni am gario ymlaen?”

Bu llawer o ymateb, wrth gwrs, ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda phawb yn gorfoleddu,