Sgoriodd Ramsey y gyntaf a Bale y drydedd
Rwsia 0 – 3 Cymru

Mae pêl-droedwyr Cymru wedi creu hanes unwaith eto heno trwy orffen ar frig eu grŵp yn Ewro 2016.

Roedd perfformiad ardderchog gan ddynion Chris Coleman yn Toulouse wrth iddyn nhw drechu Rwsia’n gyfforddus o 3-0.

Roedd un newid i’r dîm a ddechreuodd yn erbyn Lloegr yn Lens ddydd Iau, gyda San Vokes yn dechrau yn yr ymosod yn lle Hal Robson-Kanu.

Gosododd Cyrmu eu stamp ar y gêm o’r eiliadau cyntaf gan edrych i ymosod yn syth gyda Bale yn ceisio ergyd beryglus wedi dwy funud yn unig. Roedd Cymru’n chwarae gyda bwriad a ‘Pirlo Penfro’, Joe Allen, unwaith eto yng nghanol popeth.

Wedi deg munud daeth eu gwobr – Allen yn chwarae pas dreiddgar trwy ganol yr amddiffyn i ryddhau Ramsey un yn erbyn un gyda’r golwg yn unig i’w guro. Cododd chwaraewr canol cae Arsenal y bêl yn gelfydd dros y golwr i roi Cymru ar y blaen.

Y dechrau delfrydol i Gymru felly, ond roedd pethau i wella eto 10 munud yn ddiweddarach wrth i’r cefnwr chwith, Neil Taylor, o bawb rwydo ei gôl gyntaf dros ei wlad.

Roedd elfen gref o lwc i’r gôl wrth i Bale gael ei daclo 35 llath o’r gôl, dim ond i’r bêl wyro i Taylor oedd yn glir o’r amddiffyn. Mae chwe mlynedd ers i Taylor sgorio unrhyw fath o gôl i glwb neu wlad ac roedd hynny’n dangos wrth i’w ergyd gyntaf daro’r golwr, ond gwyrodd y bêl yn syth nôl i lwybr y Cymro gyda’r gôl yn wag o’i flaen a doedd y bachgen o’r gogledd ddim am fethu ei ail gyfle.

Er i Rwsia gael cyfnod o bum munud da yng nghanol yr hanner, roedd Cymru’n dal i edrych yn beryglus yn gwrth-ymosod ac arweiniodd rhediad Bale at gyfle da i Sam Vokes, oedd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth, ond methodd yr ymosodwr â manteisio gydag ergyd wan.

Roedd hyder y Cymry’n cynyddu wrth i’r gêm fynd ymlaen a gwelwyd Ramsey a Bale yn bygwth gydag ergydion nerthol o bellter.

Cymru’n arwain o 2-0 ar yr hanner felly a dim golwg o Rwsia’n atgyfodi.

Selio’r fuddugoliaeth

Digon tebyg oedd llif y chwarae yn yr ail hanner gyda’r Cymry’n edrych yn beryglus, a Rwsia’n cynnig ychydig iawn mewn gwirionedd.

Yr un peth oedd ar goll yn y gêm oedd gôl i seren y cochion, Gareth Bale, er ei fod yn cael mwy o ryddid a chyfleoedd nag a gaoff yn y ddwy gêm flaenorol gyda’i gilydd.

Daeth cyfle da iddo wedi 54 munud – Ledley’n ennill y bêl yng nghanol y cae cyn ryddhau i Ramsey, oedd yn cael ei gêm orau dros Gymru ers amser maith. Pas fach dwt gan Ramsey i roi Bale yn glir, ond gyda’r ongl yn dynn llwyddodd y golwr i gael blaen ei droed i’w ergyd.

Ag yntau wedi sgorio o giciau rhydd yn y ddwy gêm gyntaf, daeth cyfle da i seren Real Madrid ychwanegu un arall wedi 57 munud wedi trosedd ar Joe Allen rhyw 25 llath o’r gôl. Yn anffodus i Bale, roedd ei ergyd lathenni i’r dde o’r gôl y tro yma.

Yna, gyda llai na 25 munud yn weddill daeth y foment fawr a’r gôl anochel o’r diwedd i Bale – rhediad arall treiddgar gan Ramsey cyn i’w bas fach trwy’r amddiffyn ganfod ei gyfaill oedd wedi amseru ei rediad i’r dim. Roedd digon  o waith ar ôl gan Bale, ond llwyddodd i rwydo’n wych gydag ergyd oddi-ar ymyl ei droed chwith.

Roedd hi’n saff i’r cochion ddechrau dathlu ac roedd gwrthwynebwyr yn derbyn eu ffawd erbyn hyn. Roedd un cyfnod o tua deugain pas rhwng y crysau coch i floeddiadau olé gan y cefnogwyr yn crynhoi’r awyrgylch a’r sefyllfa anhygoel.

Os nad oedd y fuddugoliaeth gofiadwy’n ddigon, yn raddol cyrhaeddodd y newyddion mai gêm gyfartal ddi-sgôr oedd honno rhwng Lloegr a Slofacia, gan olygu mai Cymru oedd i ennill y grŵp.

Byddan nhw nawr yn herio un o’r timau sy’n gorffen yn drydydd yn y grwpiau eraill ym Mharis ddydd Sadwrn, a phwy a wyr beth ddaw wedi hynny.

Cymru: Hennessey; Gunter, Taylor, Davies, Chester, A. Williams; Ledley (King ’75), Allen (Edwards ’73), Ramsey; Bale (Church ’82), Vokes