Mae tân sy’n lledu’n wyllt trwy ran o dalaith Califfornia yn yr Unol Daleithiau, bellach wedi llosgi ardal naw milltir sgwâr.

Ac wrth i’r gwynt godi, ac i’r haul fachlud, mae’r awdurdodau’n poeni y bydd y fflamau’n bygwth bron i 300 o gartrefi.

Hyd yn hyn, mae pumed ran o’r tân dan reolaeth, meddai’r awdurdodau, a hyd yma, dim ond siediau a thai allan sydd wedi’u heffeithio gan y fflamau. Ond mae ffermydd mawr a gwersylloedd campio yn rhan o’r ardal lle gallai pobol gael eu symud o’i cartrefi pe bai pethau’n gwaethygu dros nos.

Mae 1,200 o ymladdwyr tân yn rhan o’r gwaith o geisiau cael y fflamau dan reolaeth, ac mae traffordd yr US 101 eisoes wedi’i chau.