Terry Hill (ar y dde) gyda'i deulu (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae teulu dyn fu farw mewn damwain angheuol ar ffordd yr 
A4233 yn Wattstown, Porth y Rhondda fore Iau, wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw Terry Hill o Ben-y-bont ar Ogwr pan fu’r car yr oedd yn ei yrru mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd arall.

“Roedd e’n wr, yn dad, yn fab ac yn frawd yr oedden ni’n meddwl y byd ohono,” meddai’r teulu. “Roedd e’n graig, nid yn unig i’w deulu, ond i’r gymuned yn ehangach hefyd. Roedd e’n aelod o Fand Pres Tylerstown ac yn hyfforddwr tim rygbi dan-15 Pen-y-bont.

“Mae’r teulu wedi torri’u calonnau gan y digwyddiad hwn,” meddai’r datganiad wedyn, “a fydd neb byth yn gallu cymryd lle Terry.

“Roedd Terry yn meddwl y byd o’i deulu, ei ffrindiau. Bydd bwlch mawr ar ei ôl mewn sawl lle, a bydd pawb oedd yn ei nabod yn gweld ei golli.”

Mae Heddlu De Cymru yn dal i ymchwilio i amgylchiadau’r gwrthdrawiad. Yn y cyfamser, mae dyn 40 oed o Glynrhedyn yn y Rhondda wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus.