Omar Mateen Llun: Heddlu Orlando/PA Wire
Roedd dyn arfog, wnaeth saethu 49 o bobl yn farw mewn clwb nos yn yr Unol Daleithiau, wedi datgan ei fod yn deyrngar i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wrth siarad â’r heddlu ar y ffôn, meddai’r awdurdodau yn Fflorida.

Roedd swyddogion yr heddlu wedi defnyddio ffrwydron i wneud twll yn wal y clwb nos, Pulse, yn Orlando, Fflorida mewn ymdrech i achub pobl wrth i  Omar Mateen gadw rhai’n wystlon yn nhoiledau’r adeilad.

Dywedodd pennaeth Heddlu Dinas Orlando, John Mina, bod Mateen wedi cau ei hun, ynghyd a phedwar neu bump o wystlon, mewn toilet ar ôl saethu pobl eraill oedd yn y clwb.

Wedyn, fe ffoniodd yr heddlu gan son am “wregysau llawn ffrwydron” a “bygwth lladd” pobl a dyna pryd wnaeth yr heddlu benderfynu defnyddio ffrwydron a cherbyd arfog er mwyn mynd i mewn i’r adeilad.

Dywedodd John Mina bod hynny wedi arbed “nifer fawr” o fywydau.

Fe gadarnhaodd hefyd bod Mateen wedi datgan “teyrngarwch i’r Wladwriaeth Islamaidd” tra roedd yn siarad gyda thrafodwyr yr heddlu.

49 wedi’u lladd

Mae’r awdurdodau yn Orlando wedi cadarnhau bod 49 o bobl wedi’u saethu’n farw yn oriau man fore Sul a bod 53 o bobl eraill wedi’u hanafu.

Mae pob un o’r dioddefwyr, ar wahân i un, wedi cael eu hadnabod ac mae teuluoedd 24 o bobl wedi cael gwybod.

Cafodd Mateen, 29, ei saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl iddo danio gwn at swyddogion tra’n ceisio dianc trwy’r twll yn y wal a wnaed gan y cerbyd arfog.

Roedd mwy na 300 o bobl yn y clwb ar gyfer pobl hoyw pan gafodd sŵn ergydion gwn eu clywed toc wedi 2yb (amser lleol).

Roedd y saethwr wedi tanio gwn sawl gwaith cyn cymryd dwsinau o bobl yn wystlon mewn digwyddiad a barodd am fwy na thair awr.

‘Ymchwiliad i bobl eraill’

Mae cyrff y rhai fu farw bellach wedi cael eu symud o’r clwb ac mae ymchwilwyr yr FBI yn parhau i weithio ar y safle i gasglu tystiolaeth.

Dywed yr awdurdodau nad ydyn nhw’n gwybod “a fydd unrhyw un arall yn cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â’r drosedd ond nid oes gennym reswm i feddwl bod unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r drosedd yn fygythiad i’r cyhoedd ar hyn o bryd.

“Ond mae yna ymchwiliad i bobl eraill… os oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r drosedd fe fyddan nhw’n cael eu herlyn.”

Er bod Mateen wedi cyhoeddi ei deyrngarwch i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) nid yw’r grŵp eithafol wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn swyddogol hyd yn hyn.