Swyddogion fforensig tu allan i glwb nos Pulse, yn Orlando, Fflorida (Llun: Red Huber/Orlando Sentinel via AP)
Mae pryder y gall nifer y meirw gynyddu wedi’r gyflafan mewn clwb nos i bobl hoyw yn Orlando, Fflorida yn gynnar fore dydd Sul.
Cafodd 50 o bobl eu saethu’n farw gan ddyn arfog yng nghlwb nos Pulse yn Orlando yn yr achos gwaethaf o’i fath yn hanes yr Unol Daleithiau.
Yn ôl adroddiadau roedd y swyddog diogelwch i gwmni G4S, Omar Mateen, 29, wedi ffonio’r heddlu gan gyhoeddi ei deyrngarwch i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) cyn tanio dau wn at y dorf yn y clwb nos.
Mae’r grŵp brawychol IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad – mae’r Arlywydd Barack Obama wedi ei ddisgrifio fel gweithred brawychol “llawn casineb.” Mae wedi galw o’r newydd am dynhau’r cyfreithiau yn ymwneud a gynnau.
FBI ‘wedi ymchwilio i Mateen’
Yn y cyfamser mae wedi dod i’r amlwg bod swyddogion gwrth-frawychiaeth wedi ymchwilio i gefndir Omar Mateen sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Daeth i sylw’r FBI ar ôl gwneud sylwadau ymfflamychol i’w gyd-weithwyr ynglŷn ag eithafiaeth yn 2013. Cafodd ei holi ddwywaith ac eto yn 2014 ynglŷn â chysylltiadau posib a hunan-fomiwr yn America, ond cafodd yr ymchwiliad ei ollwng ar ôl i’r FBI benderfynu nad oedd yn fygythiad.
Roedd mwy na 300 o bobl yng nghlwb nos Pulse adeg yr ymosodiad a chafodd rhai pobl eu cadw’n wystlon yn ystod y digwyddiad a barodd am dair awr a hanner. Cafodd y dyn arfog ei saethu’n farw gan swyddogion SWAT ar ôl iddyn nhw ruthro i mewn i’r adeilad.
Yn ôl swyddogion bu farw 39 o bobl yn y clwb nos ac 11 mewn ysbytai yn y ddinas yn ddiweddarach. Mae 53 o bobl yn parhau mewn cyflwr difrifol.
Yn ôl llawfeddyg yn ysbyty Orlando, Dr Mike Cheatham, mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu.