Mae’r dyn sydd wedi’i amau o gyflawni’r ymosodiad brawychol ar glwb nos yn Florida wedi cael ei enwi.
Doedd Omar Mateen, 29, ddim ar restr yr awdurdodau o bobol sy’n cael eu hamau o fod â chysylltiadau â brawychiaeth.
Cafodd o leiaf 20 o bobol eu lladd yn y digwyddiad, gan gynnwys y dyn arfog aeth i mewn i’r clwb nos i bobol hoyw yn Orlando.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama: “Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda theuluoedd ac anwyliaid y dioddefwyr.
“Mae’r Arlywydd wedi gofyn am gael diweddariadau cyson wrth i’r FBI a swyddogion ffederal eraill gydweithio â Heddlu Orlando i gasglu rhagor o wybodaeth, ac fe wnaeth e orchymyn bod y llywodraeth ffederal yn cynnig unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau’r ymchwiliad a chefnogi’r gymuned.”