Mae gwrthwynebwyr i’r cyrchoedd awyr yn Syria yn dweud bod o leiaf 12 o bobol wedi cael eu lladd gan fomiau o’r awyr sydd wedi taro marchnad a lleoliadau eraill yn Idlib yng ngogledd-orllewin y wlad.

Yn ôl Arsyllfa Syria tros Hawliau Dynol, mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu.

Mae un arall o’r pwyllgorau gwrth-lywodraeth, y Pwyllgor Cydlynu Lleol yn dweud bod 13 o bobol wedi cael eu lladd a bod 29 wedi’u hanafu.

Mae Idlib wedi’i rheoli gan wrthryfelwyr Syria sy’n cynnwys cangen o al-Qaida, y Nusra Front.