Mae adroddiadau bod dyn arfog yn cadw gwystlon mewn clwb nos i bobol hoyw yn Florida a’i fod e wedi tanio dryll.

Ar dudalen Facebook clwb nos Pulse yn Orlando, roedd neges yn galw ar gwsmeriaid i adael yr adeilad a “pharhau i redeg”.

Mae fideos wedi ymddangos ar y we yn dangos pobol yn derbyn triniaeth, ond does dim manylion am y bobol a gafodd eu hanafu eto.

Yn ôl newyddiadurwr lleol, cafodd hyd at 20 o bobol eu saethu yn y digwyddiad ac roedd pryderon fod y dyn arfog yn gwisgo bom.