Mae enw maes awyr Belfast wedi cael ei newid am un diwrnod i dalu teyrnged i ymosodwr y tîm cenedlaethol presennol, Kyle Lafferty.

Maes Awyr George Best yw’r enw arferol, ond mae’r enw wedi cael ei newid dros dro wrth i Ogledd Iwerddon baratoi i herio Gwlad Pwyl ddydd Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr fod y penderfyniad yn “neges anferth o gefnogaeth” i’r tîm.

Cafodd ei ail-enwi yn dilyn marwolaeth un o’r pêl-droedwyr gorau erioed yn 2005.

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae George Best yn un o’r pêl-droedwyr gorau a welodd y byd erioed ac rydyn ni’n gobeithio fod newid yr enw am ddiwrnod yn helpu i ysbrydoli Kyle i orfoleddu yn erbyn Gwlad Pwyl ac yng ngweddill y twrnament.”