Cefnogwyr ym Marseille
Roedd trydydd diwrnod o ymladd yn Ewro 2016 ddydd Sadwrn y tu fewn i Stade Velodrome ym Marseille ar ôl gêm Lloegr yn erbyn Rwsia.
Yn ôl adroddiadau, rhuthrodd cefnogwyr Rwsia i mewn i rannau o’r stadiwm lle’r oedd cefnogwyr Lloegr ac ymosod arnyn nhw, gan olygu bod rhai wedi cael eu cludo i’r ysbyty.
Cafodd cefnogwyr eu gweld yn rhedeg allan o’r stadiwm yn fuan wedi’r gêm wrth iddyn nhw gael eu cwrso gan ddynion mewn balaclafas.
Mae lle i gredu bod o leiaf un cefnogwr mewn cyflwr difrifol, a bod hyd at 20 o gefnogwyr Lloegr wedi derbyn anafiadau.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi galw ar awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r sefyllfa a chosbi’r rhai oedd yn gyfrifol.
Fe allai Rwsia gael eu cosbi’n llym yn dilyn y digwyddiad wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.
Fe fu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio canonau dŵr a nwy ddagrau i dawelu cefnogwyr y ddwy wlad cyn y gêm, ac roedd y cefnogwyr yn taflu boteli ac yn dyrnu ei gilydd brynhawn dydd Sadwrn.
Dywedodd gwraig chwaraewr Lloegr, Jamie Vardy ar Twitter ei bod hi wedi bod yng nghanol y grwpiau o gefnogwyr wrth iddyn nhw ymladd cyn y gêm.
Yn ôl y cyfryngau yn Ffrainc, cafodd 31 o bobol eu hanafu, gan gynnwys pedwar yn ddifrifol, ac mae bywyd un cefnogwr mewn perygl.
Mae rheolwr Lloegr, Roy Hodgson wedi gwrthod gwneud sylw am yr ymladd.
Yn hwyr nos Sadwrn, roedd ymosodiad ar ddynes ar fetro Ffrainc ac fe fu’n rhaid iddi gael triniaeth yn yr ysbyty.
Mae adroddiadau hefyd bod ymosodiadau ar gefnogwyr Gogledd Iwerddon gan drigolion lleol yn Nice, lle byddan nhw’n herio Gwlad Pwyl ddydd Sul.
I’r gwrthwyneb roedd hi yn Bordeaux wrth i gefnogwyr Cymru ddathlu eu buddugoliaeth o 2-1 dros Slofacia.