Mae tîm pêl-droed Cymru ar frig Grŵp B yn Ewro 2016 yn Ffrainc ar ôl i Loegr a Rwsia orffen yn gyfartal 1-1 yn y Stade Velodrome ym Marseille nos Sadwrn.

Aeth Lloegr ar y blaen ar ôl 73 o funudau drwy gic rydd uniongyrchol gan Eric Dier, ond fe darodd Rwsia yn ôl yn yr amser a ganiateir ar gyfer anafiadau drwy gôl gan Vasili Brezutsky.

Ond mae buddugoliaeth Cymru o 2-1 dros Slofacia yn Bordeaux yn golygu bod ganddyn nhw driphwynt ar ôl un gêm ac y dylai un pwynt arall fod yn ddigon iddyn nhw fynd drwodd i rownd yr 16 olaf.

Mae gan Rwsia a Lloegr bwynt yr un, a Slofacia ar waelod y tabl heb sicrhau’r un pwynt eto.

Aeth Cymru ar y blaen ar ôl 10 munud oddi ar gic rydd ar ymyl y cwrt cosbi gan Gareth Bale.

Tarodd Slofacia’n ôl ar ôl awr drwy Ondrej Duda, ond daeth gôl fuddugol Cymru drwy Hal Robson-Kanu naw munud cyn diwedd y gêm.

Fe fydd Rwsia a Slofacia’n herio’i gilydd ddydd Mercher (2 o’r gloch), cyn i Gymru a Lloegr fynd benben am 2 o’r gloch ddydd Iau.