Hillary Clinton (Llun: o wefan ei hymgyrch)
Mae Hillary Clinton wedi sicrhau ei lle yn y llyfrau hanes drwy gael ei henwebu fel ymgeisydd y Democratiaid yn y ras arlywyddol.

Hi yw’r ferch gyntaf i arwain un o ddwy blaid fwyaf America, a dywedodd fod ei llwyddiant yn destun i’r “cenedlaethau o ferched a dynion a wnaeth ymgyrchu i wneud y foment hon yn bosibl.”

“Mae’r ymgyrch hwn am sicrhau nad oes ‘na nenfydau, dim cyfyngiadau i ddim un ohonom ni,” meddai mewn rali yn Efrog Newydd.

Ceisiodd apelio ar bleidleiswyr ei chystadleuydd, Bernie Sanders, gan annog pobol i “gofio’r hyn sy’n ein huno.”

Lladd ar Trump

Achubodd ar y cyfle hefyd i herio ymgeisydd y Gweriniaethwyr, Donald Trump, gan ei gyhuddo o geisio gwneud ei ffordd i’r Tŷ Gwyn drwy “godi ofn a thrwy ein hatgoffa yn ddyddiol o ba mor wych ydyw.”

Fe wnaeth Hillary Clinton ennill mewn tair o’r chwe thalaith oedd yn pleidleisio ddydd Mawrth, yn New Jersey, New Mexico a South Dakota.

Ond rhaid iddi apelio at gefnogwyr Bernie Sanders, a enillodd yn North Dakota a Montana, sydd yn dal i fynnu bod ganddo gyfle i gael ei enwebu ar ran y Democratiaid.

Mae’r ddau Ddemocrat bellach yn gobeithio am fuddugoliaeth yng Nghaliffornia, ond hyd yn oed os na fydd Hillary Clinton yn ennill yn y dalaith honno, mae’n parhau’n hyderus mai hi sydd wedi cael ei henwebu.

Ar ôl Califfornia, un dalaith sydd ar ôl i benderfynu dros ei hymgeiswyr – Washington DC.

Mae Arlywydd presennol America, Barack Obama, eisoes wedi llongyfarch Hillary Clinton.